Who are we?

Glamorgan Archives is a local authority archive service for six local authorities in south east Wales.  Based in Leckwith in Cardiff, we hold over 12 kilometres of records in our strongrooms, dating from the 12th century to the present day.

What do we do?

We collect documents relating to the geographic area we serve; we preserve these documents in the best conditions possible, and we make them accessible to the public in our searchroom and through our learning and community engagement programmes.

Our approach to education and learning

We’re a small staff team which means we don’t have a dedicated education or learning officer.  We all work together to deliver our services to young people, as part of our wider roles within Glamorgan Archives.

Our offer to schools includes:

  • Themed workshops delivered on site – these are linked to the curriculum and are targeted at KS2 but can be adapted for use with younger or older students
  • Access to online versions of these workshops – these can be downloaded from our website, from the People’s Collection Wales and from Hwb, the Welsh Government’s online resource portal for schools
  • Advice and guidance to teachers including contributions to CPD sessions

What do we hope to discuss during our Takeover?

We would like to raise awareness of heritage education provision within archive services.  Museum education and learning services have a much higher profile, so we’d also like to learn from you and understand what we could be doing differently.

We also find ourselves currently in an unprecedented situation.  How do we adapt our learning and education provision to meet the needs of life in lockdown?

The discussion will be open and we’re happy to pick up any topics, but here are a few prompts:

1) Our engagement with schools currently relies largely on onsite visits.  Now that such visits aren’t possible, we’re looking to engage with schools virtually.  What do you feel would be useful?  And how to we make these resources sustainable and useful in the longer term, so that we can continue to use them once we’re back on site?

2) What do you think of virtual classrooms?  Are they as valuable as physical visits to heritage sites?

3) What do people want to see from education provision in Archives post-lockdown?

4) Are teachers aware of the education and learning activities available within Archives? How can we raise awareness of the services we offer?

5) What have Museums been doing that could be transferrable to Archives?

6) And finally, the perennial problem – getting feedback from participants.  Our teacher feedback forms are rarely completed – what can we do differently? And are there any ways of collecting feedback from children, other than the ‘smiley face / sad face’ option?

**********

Pwy ydyn ni?

Gwasanaeth archifau awdurdod lleol ar gyfer chwe awdurdod lleol yn ne ddwyrain Cymru yw Archifau Morgannwg.  Wedi ein lleoli yn Lecwydd yng Nghaerdydd, rydym yn cadw dros 10 cilomedr o gofnodion yn ein hystafelloedd sicr, sy’n dyddio o’r 12fed ganrif i’r presennol.

Beth rydyn ni’n ei gwneud?

Rydym yn casglu dogfennau sy’n ymwneud a’r ardal ddaearyddol rydym yn ei wasanaethu; yn cadw’r dogfennau yma yn y cyflwr gorau phosib, ac yn sicrhau mynediad iddynt yn ein hystafell ymchwil gyhoeddus a trwy ein rhaglenni dysgu ac ymgysylltiad cymdeithasol.

Ein hagwedd ni at addysg a dysgu

Rydym yn dîm staff bychan ac, o ganlyniad, nid oes gennym swyddog addysg neu ddysgu arbennig.  Rydym yn cydweithio i gynnig gwasanaethau i bobol ifanc, fel rhan o’n gwaith ehangach o fewn Archifau Morgannwg.

Mae ein cynnig i ysgolion yn cynnwys:

  • Gweithdai ar themâu a gyflwynwyd yn ein hadeilad – mae’r rhain yn cysylltu ar gwricwlwm ac wedi eu hanelu at CA2, ond gellir ei addasu ar gyfer myfyrwyr iau neu hyn
  • Mynediad i fersiynau arlein o’r gweithdai yma – gellir eu lawrlwythno o’n gwefan, o Gasgliad y Werin ac o Hwb, porth adnoddau arlein i athrawon Llywodraeth Cymru
  • Cyngor i athrawon gan gynnwys cyfraniadau at ddatblygiad proffesiynol

Beth hoffwn ei drafod yn ystod ein cyfnod Meddiannu?

Hoffwn codi ymwybyddiaeth o ddarpariaeth addysg o fewn gwasanaethau archifau.  Mae gan gwasanaethau addysg a dysgu amgueddfeydd proffil llawer uwch, felly hoffwn hefyd dysgu ganddoch a deall beth gallwn ni fod yn ei wneud yn wahanol.

Rydym yn byw trwy sefyllfa heb ei debyg o’r blaen.  Sut gallwn addasu ein darpariaeth dysgu ac addysg i gwrdd ag anghenion bywyd dan gyfyngiadau?

Bydd y drafodaeth yn agored ac rydym yn hapus i drafod unrhyw bwnc, ond dyma ambell awgrym:

1) Ar hyn o bryd mae ein hymrwymiad ag ysgolion yn ddibynnol i raddau helaeth ar ymweliadau i’n hadeilad.  Gan nad yw ymweliadau o’r fath yn bosib ar hyn o bryd, rydym yn bwriadu gweithio gydag ysgolion mewn modd rhithiol.  Beth fyddech chi’n ystyried o ddefnydd?  A sut gallwn sicrhau bod ar adnoddau yma yn gynaliadwy ac yn ddefnyddiol yn hir dymor, fel bod modd parhau i’w ddefnyddio unwaith rydym nôl yn ein hadeilad?

2) Beth yw eich barn chi o’r ystafell ddosbarth rhithiol?  Ydi hi’r un mor werthfawr ag ymweliad corfforol a safle treftadaeth?

3)  Beth hoffech ei weld fel darpariaeth addysg gan Archifau wedi i’r cyfyngiadau gostwng?

4) Ydi athrawon yn ymwybodol o’r gweithgareddau addysg a dysgu sydd ar gael o fewn Archifau? Sut gallwn codi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig?

5) Beth mae Amgueddfeydd wedi bod yn gwneud sy’n addas i’w drosglwyddo i Archifau?

6) Ac i gloi, yr un hen gŵyn – cael adborth can gyfranogwyr. Yn anaml iawn cawn ffurflenni adborth athrawon yn ôl wedi ei chwblhau – beth allwn ei wneud yn wahanol? Ac oes yna ffyrdd gwahanol o gasglu adborth gan blant, ar wahân i’r opsiwn ‘wyneb hapus / wyneb trist’?