Grŵp Addysg mewn Amgueddfeydd (GEM) yn sicrhau grant gan Adran Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru i ddarparu Ymgynghoriad a Hyfforddiant ynglŷn â Chwricwlwm Cymru

 

Mae GEM wedi sicrhau grant gan Adran Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru i ddarparu hyfforddiant a chymorth i amgueddfeydd Cymru er mwyn iddynt ddatblygu dysg mewn perthynas â’r Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae’r cymorth hwn, a gynigir ar y cyd â GEM Cymru, yn cynnwys Ymgynghoriad Cwricwlwm i adolygu anghenion datblygu gweithlu Amgueddfeydd Cymru.

O fis Medi 2022, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu’r Cwricwlwm newydd i Gymru ar draws ysgolion cynradd ac uwchradd y wlad, o ganlyniad i Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021. Mae’r cwricwlwm wedi’i ddylunio i ganolbwyntio addysg yng Nghymru ar ddatblygu sgiliau a soffistigedigrwydd dealltwriaeth, yn hytrach na chanolbwyntio ar gorff cynnwys cynyddol. Mae’n helpu pobl ifanc yng Nghymru i gysylltu â’u hunaniaethau, tirweddau a’u hanesion unigryw sy’n dod ynghyd i ffurfio eu cynefin – y lle maen nhw’n perthyn iddo.

Gall lleoliadau treftadaeth ddiwylliannol yng Nghymru fanteisio ar y cyfleoedd sy’n dod law yn llaw â’r cwricwlwm newydd hwn, a datblygu rhaglenni dysgu ar gyfer 2022 sy’n gweithio gydag ysgolion lleol i gyfnerthu dysg. Nod GEM yw cefnogi sefydliadau gyda sesiynau hyfforddi gan ymgorffori athrawon ac addysgwyr mewn amgueddfeydd i archwilio’r heriau a’r cyfleoedd sy’n dod law yn llaw â’r cwricwlwm.

Yn ogystal, pleser gan GEM yw cyhoeddi bod Robin Johnson, Ymgynghorydd Llawrydd Addysg mewn Amgueddfeydd, wedi’i benodi i ymgynghori amgueddfeydd a’r sector addysg ffurfiol yng Nghymru, gyda golwg ar ddatblygu hyfforddiant perthnasol ac effeithiol i addysgwyr.

Dywed Essex Havard, Ymddiriedolwr GEM (Cymru):

“Rydym yn falch o dderbyn grant gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo amgueddfeydd gyda’r newid hwn yn y cwricwlwm. Diolch i GEM Cymru am eich gwaith caled yn paratoi ar gyfer y prosiect hwn ac am fod yn eiriolwyr dros addysgwyr mewn amgueddfeydd yng Nghymru.”

Mae GEM yn hynod ddiolchgar o dderbyn y grant hwn, a fydd yn eu galluogi i gyfarparu amgueddfeydd a safleoedd treftadaeth i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle hwn yn y cwricwlwm.

DIWEDD

 

Nodiadau i olygyddion

Am ragor o wybodaeth ynghylch GEM, delweddau a chyfweliadau, cysylltwch â: Jessica England, Rheolwr Cyfathrebu GEM (Cyflenwi Absenoldeb Rhiant) drwy [email protected]

Cefndir GEM
Mae GEM yn rhwydwaith aelodaeth llwyddiannus a bywiog gyda thros 850 o aelodau sefydliadol a phersonol

Ein gweledigaeth yw cymuned o bobl gysylltiedig a galluog yn hwyluso dysg ar draws amgueddfeydd a lleoliadau treftadaeth a diwylliannol, yn creu profiadau ysbrydoledig sy’n addas i bawb; ac sy’n hyrwyddo cydraddoldeb – trawsnewid a chyfoethogi bywydau.

Mae creadigrwydd, angerdd a gwaith caled ein haelodau yn ysbrydoliaeth barhaus i ni yn GEM. Pa un ai a hoffech fod ar flaen y newyddion diweddaraf yn y sector, datblygu sgiliau newydd, neu ddod o hyd i swydd newydd, mae GEM yma i helpu. Rhagor o wybodaeth ynghylch sut all GEM eich helpu chi.

GEM – Cysylltwch â ni:
Facebook: www.facebook.com/GEM.heritage
LinkedIn: https://www.linkedin.com/in/gem-heritage/
Twitter: @gem_heritage / Twitter Swyddi GEM: @gem_jobs
Instagram: @gem_heritage

 

Cefndir y Cwricwlwm newydd i Gymru
O fis Medi 2022, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu’r cwricwlwm newydd i Gymru ar draws ysgolion cynradd ac uwchradd y wlad, i ddysgwyr o dair oed hyd at un ar bymtheg. Mae’r cwricwlwm newydd hwn yn canolbwyntio ar bedwar diben allweddol sy’n cefnogi datblygiad plant a phobl ifanc, ac yn cyfrannu at y nodau sydd wedi’u sefydlu yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae hefyd yn ffordd bwysig o godi safonau mewn addysg, mynd i’r afael â’r bwlch o ran cyrhaeddiad, a gweithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) mewn dysg.

 

Cewch ragor o wybodaeth ynghylch Cwricwlwm Cymru yma.

 

 

Group for Education in Museums (GEM) secures grant from the Welsh Government Culture and Sport Division to provide Welsh Curriculum Consultation and Training

GEM has secured a grant from the Welsh Government Culture and Sport Division to provide training and support for museums in Wales developing learning around the new Welsh Curriculum. This support, offered jointly with GEM Cymru, includes a Curriculum Consultation to review the workforce development needs of Welsh Museums.

From September 2022 the Welsh Government will implement the new Curriculum for Wales across primary and secondary schools in the country, as a result of the Curriculum and Assessment (Wales) Act 2021. The curriculum is designed to focus education in Wales on skills development and sophistication of understanding rather than covering a growing body of content. It helps young people in Wales to connect with their unique identities, landscapes and histories that come together to form their cynefin – meaning place of belonging.

Cultural heritage settings in Wales can seize the opportunities presented by this new curriculum, developing learning programmes for 2022 that work with local schools to consolidate learning. GEM aims to support organisations with training sessions incorporating teachers and museum educators to explore challenges and opportunities presented by the curriculum.

GEM is also pleased to share that Robin Johnson, Freelance Museum Education Consultant, has been recruited to consult museums and the formal education sector in Wales with a view to develop relevant, effective training for educators.

Essex Havard, GEM Trustee (Wales) says:

“We’re delighted to be receiving a grant from the Welsh Government to support museums through this curriculum change. Thank you to the GEM Cymru for your hard work in preparing for this project and advocating for museum educators in Wales.”

GEM is incredibly grateful to have received this grant, which will enable them to equip museums and heritage sites to make the most of this curriculum opportunity.


ENDS

 

Notes to editors

For further information about GEM, images and interview opportunities, please contact: Jessica England, GEM Communications Manager (Parental Leave Cover) at [email protected]

About GEM
GEM is a thriving and vibrant membership network of over 850 institutional and personal members

Our vision is of a connected and equipped community of people enabling learning across museum, heritage and cultural settings, creating inspiring experiences, relevant for everyone; that promote equality – transform and enrich lives.

We at GEM are continually inspired by our members’ creativity, passion and hard work. Whether you’d like to keep up to date with the latest sector news, develop new skills, or find a new job, GEM is here to help. Find out more about how GEM can help you.

GEM – Connect with us:
Facebook: www.facebook.com/GEM.heritage
LinkedIn: https://www.linkedin.com/in/gem-heritage/
Twitter: @gem_heritage / Twitter GEM Jobs: @gem_jobs
Instagram: @gem_heritage

 

About the new Welsh Curriculum
From September 2022 the Welsh Government will implement the new curriculum for Wales across primary and secondary schools in the country, for learners aged three to sixteen. This new curriculum is focused around four key purposes that support the development of children and young people, and contributes to the goals established in the 2015 Well-being of Future Generations (Wales) Act. It is also an important vehicle for raising education standards, tackling the attainment gap, and embedding the United Nations Convention on the Rights of the Child (UNCRC) in learning.

 

Find out more about the Welsh Curriculum here.