(Scroll down for English version)

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Ymunwch â Thîm Addysg Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar gyfer sesiwn Cwestiwn ac Ateb – Rhannu Sgiliau Addysg ar Twitter rhwng 3pm a 5pm ar ddydd Iau 2 Ebrill

Pwy ydym ni?

Am bron i ganrif, mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wedi bod yn gartref i gasgliadau celf a hanes natur cenedlaethol Cymru. A ninnau yng nghanol y brifddinas, rydym yn rhan o deulu Amgueddfa Cymru.

Beth sydd i’w weld yma?

Mae ein horielau hanes natur anhygoel yn mynd â chi ar daith o’r arfordir i’r mynyddoedd, ac yn ein horiel Esblygiad Cymru gallwch fynd ar daith 4,600 miliwn o flynyddoedd o ddechrau amser hyd heddiw – gan ddod wyneb yn wyneb â deinosoriaid a mamothiaid blewog ar hyd y ffordd.

Mae ein casgliad celf ymhlith y gorau yn Ewrop, a chanddo dros 500 o baentiadau, darluniau, cerfluniau, gwaith serameg ac arian o Gymru a thu hwnt. Rydym yn arbennig o falch o fod yn gartref i un o gasgliadau celf Argraffiadol gorau Ewrop.

Mae ein rhaglen arddangosfeydd dros dro yn amrywiol o ran cynnwys a maint ac mae ein staff addysg yn gweithio gyda’n cydweithwyr curadurol i ddatblygu deunydd dehongli deniadol a hygyrch, gan weithio’n aml gyda phartneriaid allanol a rhoi lle i amryw leisiau yn ein horielau.

Beth yw ein dull o weithio?

Mae addysg ac ymgysylltu wrth wraidd ein gwaith, ac mae gennym amrywiaeth o weithgareddau hunandywys a dan arweiniad yr amgueddfa. Rydym yn ymroi i ymgysylltu â chynulldeifaoedd newydd a’u datblygu, a gweithio gyda phartneriaid i ehangu cyfranogiad yn ein hamgueddfa ac yn y gymuned. Rydym yn arbennig o falch o’n tîm addysg anhygoel, sy’n dod â’n harddangosiadau’n fyw mewn ffyrdd llawn dychymyg a hwyl, sy’n hygyrch ac yn gynhwysol. Mae gennym weithgareddau ar gyfer y cyfnod sylfaen, pob cyfnod allweddol, addysg ôl-16 ac addysg i oedolion. Mae ein rhaglen addysg yn ddwyieithog ac mae ein holl weithgareddau a rhaglenni addysg ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae Canolfan Ddarganfod Clore yn arbennig o boblogaidd. Yno rydym yn cynnig cyfleoedd i drin a thrafod gwrthrychau amgueddfa fel pryfed, ffosilau ac arfau o Oes yr Efydd, gan alluogi dysgwyr i gael gafael ar rai o’r 7.5 miliwn o eitemau sydd fel arfer mewn stôr.

Beth yw ein nod o feddiannu cyfrif Twitter GEM?

Rydym yn ddiolchgar iawn i’r bobl hyfryd yn GEM am roi’r cyfle yma i ni. Rydym ni am rannu syniadau, profiadau a llwyddiannau – ac rydym ni’n credu y gallwn ni ddysgu llawer gan ein gilydd.

Rydym ni hefyd am feddwl am y problemau a’r sialensiau sy’n ein hwynebu oherwydd coronafeirws. Rydym ni’n edrych ymlaen at ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ond rydym ni hefyd am glywed gennych chi am sut rydych chi’n wynebu’r sefyllfa sydd ohoni.

Yn benodol, hoffem ni feddwl am:

  • Yr her o gyd-guradu – sut allwn ni gynnal ein cydweithio creadigol, cyd-guradu ac ymgysylltiad cyhoeddus? Sut mae mynd i’r afael â’r sialensiau hyn wrth addasu i’r trefniadau gwaith newydd hyn? Gall fod cyfle yma i greu cysylltiadau o’r newydd â phartneriaid cymunedol, sut mae gwneud hynny?
  • Adnoddau digidol ac ar-lein – sut allwn ni droi ein harlwy addysg yn adnoddau digidol ar-lein yn effeithiol ac yn gyflym? Sut allwn ni gefnogi teuluoedd sy’n addysgu yn y cartref? Mae ein gweithgareddau’n dibynnu’n helaeth ar ddysgu ymarferol yn seiliedig ar wrthrychau – sut allwn ni wneud hyn heb fynediad at y gwrthrychau hynny?
  • Heriau gwaith tîm – sut allwn ni gadw mewn cysylltiad â’n cydweithwyr a thimau tra bo ni gyd yn gweithio gartref? Sut allwn ni gynnal ein hiechyd meddwl, cadw morâl yn uchel a sicrhau ein bod yn gynhyrchiol? Pa gyfleoedd sy’n codi oherwydd y dulliau newydd hyn o weithio?

Am fwy o wybodaeth am ein hamgueddfa, ewch i https://amgueddfa.cymru/caerdydd/

 

National Museum Cardiff

Join the National Museum Cardiff Learning Team in a Q&A Education Skills Sharing Session on Twitter from 15:00-17:00 on Thursday 2 April

Who are we?

For nearly 100 years the National Museum in Cardiff has been the home of Wales’s national art and natural history collections.  Situated in the heart of Cardiff, we are part of the wider National Museum of Wales family.

What exhibits do we have?

Our magnificent natural history galleries take visitors on an expedition that begins at the seashore and ends in the mountains.  Whilst our Evolution of Wales galleries explore a 4,600 million-year journey from the very beginnings of time to the present day, bringing you face to face with dinosaurs and woolly mammoths along the way.

Our art collection is one of Europe’s finest.  With five hundred years of magnificent paintings, drawings, sculpture, silver and ceramics from Wales and across the world, we are particularly proud to have one of Europe’s best collections of Impressionist art.

Our annual temporary exhibition programme is varied in subject and scale, and learning staff work with curatorial colleagues to develop engaging and accessible interpretation, often working with outside partners to bring a range of voices into the gallery space.

How do we approach Learning?

Learning and engagement is everything to us, and we have a variety of self-led and museum-led activities.  We are committed to engaging and developing new audiences, and working with partners to broaden participation at the museum and in the community is a key part of our work.  We are particularly proud of our amazing Learning Team who bring our exhibits to life in fun, imaginative, accessible and inclusive ways.  We have activities for foundation phase, all the key stages, post 16 education and adult learners.  We are committed to a bilingual education programme and all of our activities and learning programmes are available in Welsh and English.

Our Clore Discovery Centre is particularly popular, offering hands-on exploration of museum objects such as insects, fossils and Bronze Age weapons, enabling learners to get to grips with some of the 7.5 million items normally buried away in our stores.

What do we want to do with the GEM Twitter takeover?

We are very grateful to the wonderful people at GEM for giving us this opportunity.  We want to share ideas, experiences and successes – we think we can learn lots from each other.

We also want to think about the problems and challenges that the shift in working conditions from coronavirus present to our profession.  We’d love to answer any questions you have of us, but we also want to hear from you about how you are approaching these immediate issues.

In particular, we’d like to think about:

  • Co-production Challenges – how do we maintain our work on creative collaboration, co-production and public engagement? How do we address these challenges in the new working arrangements we suddenly find ourselves in?  This could be an opportunity to make connections with new community partners, how do we do that?
  • Online & Digital Resources – how can we quickly and effectively transfer our learning offer into accessible online digital resources? How can we support families who are home educating?  Our activities rely heavily on hands-on artefact-based learning – how do we do this now we no longer have access to those artefacts?
  • Team working Challenges – how do we keep connected to our colleagues and teams whilst we are all homeworking? How do we maintain mental wellness, morale and productivity?  What opportunities do these new ways of working present to us all?

To find out more about our museum visit https://museum.wales/cardiff/