GEM Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag ymgynghorwyr dysgu mewn amgueddfa ledled y DU er mwyn helpu amgueddfeydd Cymru i gyflwyno’r cwricwlwm newydd i Gymru

Mae GEM wedi lansio cyfres o weithdai, sesiynau hyfforddi, adnoddau dysgu a chyfleoedd eraill, rhad ac am ddim, er mwyn cefnogi’r sector dysgu mewn amgueddfa yng Nghymru. Bydd y rhaglen, a lansiwyd yn 2022, yn parhau tan fis Mawrth 2023. Nod y prosiect yw annog meddwl yn arloesol a rhoi gweithgareddau sy’n benodol i’r Cwricwlwm i Gymru ac adnoddau newydd ar waith mewn amgueddfeydd a sefydliadau traws sector ledled Cymru.

  • Bydd Sarah Shaw o ‘Museum Tales’ yn cynnal hyfforddiant rhithiol am ddim yn mynd i’r afael ag addasu adnoddau’r cwricwlwm cyfredol ar gyfer cynulleidfaoedd teulu. Bydd y sesiynau rhyngweithiol hyn yn ystyried ymarferoldeb gweithio â theuluoedd, syniadau ar gyfer gweithgareddau hunan-arweiniol a sesiynau wedi’u hwyluso. Dyddiadau’r hyfforddiant: 21 Tachwedd neu 2 Rhagfyr 2022.
  • Bydd Dr Huw Griffiths, un o gyfranwyr y cwricwlwm newydd i Gymru, yn creu dau fideo ar gyfer pecyn cymorth er mwyn helpu amgueddfeydd ac ysgolion i ymgorffori elfennau Cynefin yn eu gwaith.
  • Bydd Keystone Heritage, ymgynghoriaeth dysgu treftadaeth yng ngogledd Cymru, yn cyflwyno hyfforddiant codi ymwybyddiaeth o’r Cwricwlwm i Gymru er mwyn uwchsgilio staff amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd astudiaethau lleol yng Nghymru sy’n gweithio ar wahân i dimau dysgu neu nad ydynt yn arbenigwyr addysg. Bydd yr hyfforddiant hwn yn cynnig cymhwysiad ymarferol o’r cwricwlwm newydd.
  • Bydd Marian Gwyn, ymgynghorydd treftadaeth, yn arwain y gwaith o ddatblygu sesiwn hyfforddiant mewn swydd ar gyfer ysgolion. Bydd yn cael ei gyflwyno i ysgolion lleol gan staff amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd astudiaethau lleol, gyda phwyslais ar Cynefin a straeon pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig er mwyn meithrin hyder athrawon wrth weithio gyda’u disgyblion er mwyn ymgorffori ymdeimlad o hanes, balchder ac ymwybyddiaeth leol.
  • Mae’r prosiect wedi ein galluogi i gynnig deg grant micro ar gyfer amgueddfeydd ledled Cymru er mwyn eu helpu i ddatblygu a chyflwyno rhaglenni dysgu’r cwricwlwm newydd i Gymru.

Mae GEM yn gallu cynnig y rhaglen gymorth i amgueddfeydd Cymru diolch i gefnogaeth hael Adran Ddiwylliant Llywodraeth Cymru. Nod GEM yw grymuso’r gymuned dysgu mewn amgueddfeydd yng Nghymru ac annog amgueddfeydd Cymru i ymgysylltu’n rhagweithiol â’r cwricwlwm newydd i Gymru.

Dywedodd Rachel Tranter, cyfarwyddwr GEM, “Rydym ar ben ein digon o fod yn gweithio ag arbenigwyr dysgu mewn amgueddfeydd ar ein rhaglen ar gyfer Amgueddfeydd Cymru. Mae’r cwricwlwm newydd i Gymru yn gyfle gwych i amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau ail-ddychmygu eu cynnig dysg i ysgolion, teuluoedd a chymunedau, ac rydym yn falch o gefnogi’r gymuned dysgu mewn amgueddfeydd a thraws sector yng Nghymru er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cwricwlwm newydd”.  

Ymholiadau Cyffredinol:

Rachel Tranter, Cyfarwyddwr GEM

[email protected]

Ymholiadau Cyfryngau:

Katya Provornaya, Rheolwr Cyfathrebu a Chyfranogiad

[email protected]

Join GEM