GEM Cymru: Cwricwlwm Newydd i Gymru

English

 

Yn 2022, lansiodd GEM gyfres o weithdai rhad ac am ddim, sesiynau hyfforddi, adnoddau dysgu a chyfleoedd eraill i gefnogi’r sector dysgu amgueddfeydd yng Nghymru. Nod y prosiect yw ysgogi meddwl arloesol ac ymarfer adnoddau newydd a gweithgareddau penodol Cwricwlwm i Gymru mewn amgueddfeydd a sefydliadau traws-sector ledled Cymru.

Pecyn Cymorth i Amgueddfeydd

Fel rhan o brosiect a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, bu GEM yn gweithio gyda Dr Marian Gwyn i gynhyrchu pecyn cymorth cynhwysfawr ar gyfer amgueddfeydd yng Nghymru i’w helpu i lywio’r Cwricwlwm newydd i Gymru – mae croeso i chi lawrlwytho’r pecyn cymorth yma

 

Lawrlwythwch yr adnodd

 

Ffilm: Beth mae ysgolion yn chwilio amdano nawr ar ymweliad hunangyfeiriedig ag amgueddfa?

Mae GEM wedi gweithio gydag un o benseiri’r cwricwlwm hanes, Dr Huw Griffiths, ar ffilm sy’n amlinellu ei gyngor personol i amgueddfeydd ar yr hyn y bydd ysgolion yn chwilio amdano ar ymweliad hunangyfeiriedig.

Isdeitlau yn cael eu hychwanegu cyn gynted â phosib.

PowerPoint y gall staff amgueddfeydd

Hefyd, fel rhan o’r gwaith hwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru, mae GEM a Marian Gwyn wedi ysgrifennu PowerPoint y gall staff amgueddfeydd, archifau neu lyfrgelloedd ei ddefnyddio i gyflwyno eu gwasanaethau i ysgolion lleol fel rhan o HMS ysgol, neu fel cyflwyniad annibynnol i cyfarfod staff ysgol neu sesiwn hyfforddi. Gallwch lawrlwytho’r PowerPoint dwyieithog yma. You can download the dual language PowerPoint below. Mae yna hefyd ganllaw cefndir a nodiadau cyflwynydd i chi eu llwytho i lawr yma. Lawrlwythwch y fersiwn Saesneg o’r ffeiliau hyn yma.

 

Lawrlwythwch y cyflwyniad

 

Ffilm: Sut gall eich amgueddfa, archif neu lyfrgell astudio leol eich helpu i gyflwyno eich cwricwlwm newydd?

Mae GEM a Huw Griffiths hefyd wedi cynhyrchu ffilm arall y gellir ei dangos fel rhan o’r cyflwyniad lle mae’n sôn am sut y gall ysgolion ddefnyddio eu darparwyr treftadaeth lleol wrth gyflwyno’r cwricwlwm – gallwch weld / lawrlwytho’r ffilm honno yma. 

Isdeitlau yn cael eu hychwanegu cyn gynted â phosib.

Astudiaethau Achos GEM: Cwricwlwm i Gymru

Mae’r astudiaethau achos yn y cyhoeddiad hwn yn cynnwys enghreifftiau o amgueddfeydd a gafodd gyllid gan Lywodraeth Cymru, trwy gyfrwng cynllun microgrant GEM Cymru, i helpu i ddatblygu eu gwasanaethau dysgu wrth i’r cwricwlwm ddechrau cael ei gyflwyno yn ystod Hydref / Gaeaf 2022/23. Mae GEM yn ddiolchgar iawn i’r amgueddfeydd hyn am rannu llwyddiannau, heriau a gwersi a ddysgwyd yn ystod y cyfnod cychwynnol hwn pan gyflwynwyd y cwricwlwm.

Lawrlwythwch yr Astudiaethau Achos

 

 

 

Join GEM